|
| |
3 Mawrth, 2008 |
|
Agorwyd canolfan cynhyrchu, arddangos a dosbarthu newydd gwerth £1.5m yn swyddogol gan y chwaraewr rygbi chwedlonol, Gareth Edwards, yn Nhre Ioan ddoe (2il Mawrth) ar gyfer Nolan uPVC, y cynhyrchydd a gosodwr ffenestri, drysau ac ystafelloedd haul polyfinyl clorid heb ei blastigo llwyddiannus sydd â'I gartref yng Nghaerfyrddin. Daeth llu o bobl leol ynghyd I weld y seren rygbi a fu'n aelod o'r tîm a enillodd bencampwriaeth y Pum Gwlad saith o weithiau yn torri'r rhuban ac yn rhyddhau'r balwnau.
Ymunodd swyddogion o Gyngor Sir Caerfyrddin a'r gymuned fusnes leol â Gareth Edwards, yn ogystal â sêr presennol byd rygbi Cymru Robert Sidoli a Jamie Robinson, a fu'n llofnodi peli rygbi bach ac yn diddanu'r dorf drwy gynnal gweithdy sgiliau rygbi trwy gydol y dydd. Rhan yn unig oedd yr agoriad swyddogol hwn o Benwythnos Cwbl Gymreig a drefnwyd gan gwmni Nolan uPVC I ddathlu'r safle newydd yn Nhre Ioan.
Ymhlith gweithgareddau Gwyl Ddewi a drefnwyd roedd arddangosiadau garddio gan un o gyflwynwyr S4C Helen Scutt, cerddoriaeth gan y delynores Carys Ann Evans, a chyfres o berfformiadau gwych gan Opera Ieuenctid Caerfyrddin, a phice ar y maen am ddim.
"Roeddem am gyfle I ddiolch I bawb sydd wedi cefnogi twf ein busnes," meddai'r sylfaenydd a'r rheolwr gyfarwyddwr, Nolan Nicholas. "Gan inni ymsefydlu yma yng Nghaerfyrddin 20 mlynedd yn ôl, gwelwn ein hunain fel rhan annatod o'r gymuned yng Ngorllewin Cymru. Dewiswyd penwythnos Gwyl Ddewi yn fwriadol ar gyfer ein dathliadau. Pleser mawr yw cyhoeddi inni godi £735 at Hosbis Ty Bryngwyn yn Llanelli yn ystod y penwythnos." |
|
|
|